Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 3 Mawrth 2021
Amser:
09.05 -
11.56
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11049
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Dai Lloyd AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Jayne Bryant AS Angela Burns AS Lynne Neagle AS Jack Sargeant AS |
Tystion: |
Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dr Frank Atherton, Llywodraeth Cymru Dr Rob Orford, Llywodraeth Cymru Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru Jo-Anne Daniels, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Helen Finlayson (Clerc) Claire Morris (Ail Glerc) Lowri Jones (Dirprwy Glerc) Dr Paul Worthington (Ymchwilydd) Amy Clifton (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan David Rees AS, roedd Jack Sargeant AS yn bresennol ar ei ran fel dirprwy.
2 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’i swyddogion.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw.
4 COVID-19: Trafod y dystiolaeth
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
5 Ymchwiliad i effaith Covid-19, a'r modd y mae'n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru: Adroddiad 3 - Effaith ar y sector gofal cymdeithasol a gofalwyr di-dâl: Trafod yr adroddiad drafft
5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft, yn amodol ar fân ddiwygiadau, a fydd yn cael ei gylchredeg drwy e-bost.